Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 24 Ionawr
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4077
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3 - 8. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Dechreuodd yr eitem am 14.36
Dechreuodd yr eitem am 15.28
Dechreuodd yr eitem am 16.47
Dechreuodd yr eitem am 17.35
NDM6211 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod effaith gyfunol materion sy'n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant cymunedau.
2. Yn cefnogi:
a) pwyslais cynyddol ar weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; a
b) cynnwys dinasyddion yn y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella'r mannau lle y maent yn byw.
Gwelliant 1.
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder mai ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi cael eu dirymu.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6211 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod effaith gyfunol materion sy'n gysylltiedig ag ansawdd yr amgylchedd lleol ar lesiant cymunedau.
2. Yn cefnogi:
a) pwyslais cynyddol ar weithgareddau atal gyda rhagor o gydweithio ar draws sectorau; a
b) cynnwys dinasyddion yn y gwaith o ganfod a chyflawni atebion ar gyfer gwella'r mannau lle y maent yn byw.
3. Yn nodi â phryder mai ychydig iawn o Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd wedi cael eu dirymu.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i diwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.21
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 25 Ionawr 2017